P-06-1456 Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Karl Ciz ôl casglu 10,427 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r cyhoeddiad diweddar gan Ambiwlans Awyr Cymru ynghylch cau dwy ganolfan a chanoli ei weithrediadau yn golygu bod ardaloedd cyfan o ganolbarth a gogledd orllewin Cymru â gwasanaeth israddol. Rwy’n credu na wrandawyd ar angen y cyhoedd, na barn y cyhoedd ar y mater, ac rwy’n apelio ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.
Dylid lansio ymchwiliad cyhoeddus llawn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae llawer ohonom yn teimlo y bydd ein hawliau i wasanaeth Ambiwlans Awyr yn cael eu herydu, yn enwedig y rhai ohonom yng nghanolbarth a gogledd orllewin Cymru ble mae'r pellteroedd i'r cyfleusterau Damweiniau ac Achosion Brys agosaf yn aml yn bell iawn. Mae’r gwasanaeth Ambiwlans Awyr yn achubiaeth i lawer ohonom ac ni ddylid ei ddileu heb gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyfor Meirionnydd
· Canolbarth a Gorllewin Cymru